Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2016 Rhif (Cy. )
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 (“y Prif Reoliadau”). Mae'r Prif Reoliadau yn darparu bod adeiladu gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt ar y tir (fferm wynt ar y tir) sydd â gallu cynhyrchu rhwng 10 a 50 megawat o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Maent hefyd yn darparu bod estyn neu addasu fferm wynt ar y tir o arwyddocâd cenedlaethol os mai effaith y gwaith estyn neu addasu bydd cynyddu'r gallu cynhyrchu gan o leiaf 10 megawat ond nid fel bod y gallu cynhyrchu gosodedig yn uwch na 50 megawat.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r meini prawf o ran bod adeiladu, estyn neu addasu fferm wynt ar y tir yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol.
Nid yw’r diwygiadau a wneir i’r Prif Reoliadau yn cymryd effaith hyd nes bod Gorchymyn Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir (Esemptiad) (Cymru a Lloegr) 2016 a Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir) 2016 wedi dod i rym.
Effaith Gorchymyn Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir (Esemptiad) (Cymru a Lloegr) 2016 yw nad oes angen cydsyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru a Lloegr o dan adran 36(4) o Ddeddf Trydan 1989, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed.
Effaith Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir) 2016 yw nad oes angen cydsyniad datblygu mwyach ar gyfer adeiladu, addasu neu estyn ffermydd gwynt ar y tir yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (“Deddf 2008”).
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau. Mae'n diwygio'r diffiniad o “gorsaf gynhyrchu” ac yn mewnosod diffiniadau o “gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt ar y tir” a “y Gorchmynion”.
Mae rheoliad 3 hefyd yn mewnosod rheoliad newydd 4A. Mae'r rheoliad newydd yn nodi'r meini prawf o ran bod adeiladu, estyn neu addasu fferm wynt ar y tir yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol.
Effaith y diwygiadau yn rheoliad 3 yw bod rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer caniatâd cynllunio i (a) adeiladu ffermydd gwynt ar y tir fydd â gallu cynhyrchu o 10 megawat neu uwch, a (b) estyn neu addasu fferm wynt ar y tir mewn modd sy’n cynyddu ei gallu cynhyrchu disgwyliedig gan 10 megawat neu uwch, yng Nghymru i Weinidogion Cymru.
Gwneir darpariaethau arbed ar gyfer cydsyniadau o dan Ddeddf Trydan 1989, cydsyniadau datblygu o dan Ddeddf 2008 a cheisiadau ar gyfer cydsyniad datblygu o dan Ddeddf 2008 a dderbyniwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Lluniwyd asesiad effaith mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Arolygiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2016 Rhif (Cy. )
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed ***2016
Yn dod i rym ****
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]) ac a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o'r Ddeddf honno([2]) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o
Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau
Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym
drannoeth y diwrnod y'u gwneir.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran holl dir Cymru.
Diwygio Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016
2.—(1)(1)Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
(Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru)
2016([4]) wedi eu diwygio fel a
nodir yn rheoliad 3.
(2) Os nad yw—
(a) Gorchymyn Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir (Esemptiad) (Cymru a Lloegr) 2016([5]); a
(b)(b) Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Gorsafoedd
Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir) 2016([6])
wedi dod i rym ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 yn cael effaith hyd nes y bydd y Gorchmynion hynny wedi dod i rym.
3.—(1)(1) Yn rheoliad 2 (Dehongli) yn y lle priodol mewnosoder
“ystyr “Deddf 2008” (“the 2008
Act”) yw Deddf Cynllunio 2008([7])”.
(2) Yn rheoliad 3(1)(a) ar ôl “gorsaf gynhyrchu” mewnosoder “ac eithrio gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir”;
(3) Ar ôl rheoliad 3(1)(a) mewnosoder-
“(aa) adeiladu, estyn neu addasu gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir”;
(4) Yn rheoliad 4(3) (Gorsafoedd cynhyrchu)—
(a) yn y diffiniad o “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) ar ôl “sy'n cynhyrchu trydan” mewnosoder “ond nid yw'n cynnwys gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt ar y tir”;
(b) mewnosoder yn y lle priodol—
“ystyr “gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt ar y tir” (“onshore wind generating station”) yw gorsaf gynhyrchu—
(a) sy'n cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt;
(b) sydd wedi ei lleoli yng Nghymru, ond nid mewn dyfroedd yng Nghymru nac yn gyfagos â Chymru hyd at ffin y môr tiriogaethol i gyfeiriad y môr; ac
(c) nad yw'n orsaf gynhyrchu y rhoddwyd cydsyniad mewn cysylltiad â hi—
(i) o dan adran 36(1) o Ddeddf Trydan 1989([8]); neu
(ii) o dan adran 114 o Ddeddf 2008,
cyn i'r Gorchmynion priodol ddod i rym ac sy'n parhau mewn grym, a
(d) nad yw'n orsaf gynhyrchu—
(i) y mae cais ar gyfer gorchymyn sy'n rhoi cydsyniad datblygu mewn cysylltiad â hi wedi ei dderbyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 55 o Ddeddf 2008 (Derbyn ceisiadau) ond nid yw wedi ei benderfynu cyn y dyddiad y daw'r Gorchmynion hyn i rym; neu
(ii) yn dilyn adolygiad barnwrol o unrhyw benderfyniad i wrthod derbyn cais am gydsyniad datblygu neu benderfyniad i wrthod cydsyniad datblygu, y mae cais ar gyfer gorchymyn sy'n rhoi cydsyniad datblygu mewn cysylltiad â hi wedi ei dderbyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond nid yw wedi ei benderfynu cyn y dyddiad y daw’r Gorchmynion i rym.
(c) mewnosoder yn y lle priodol—
“ystyr “y Gorchmynion” (“the Orders”) yw—
(a) Gorchymyn Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir (Esemptiad) (Cymru a Lloegr) 2016([9]); a
(b) Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir) 2016([10]).”
(d) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
“Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni'r Gwynt ar y Tir
4A.—(1) Nid yw adeiladu gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt ar y tir o fewn rheoliad 3(1)(aa) ac eithrio pan ddisgwylir i'r orsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt ar y tir (pan gaiff ei hadeiladu) fod â gallu cynhyrchu gosodedig o 10 megawat neu uwch.
(2) Nid yw estyn neu addasu gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt ar y tir o fewn rheoliad 3(1)(a) ac eithrio pan ddisgwylir i effaith yr estyn neu'r addasu gynyddu'r gallu cynhyrchu gosodedig gan o leiaf 10 megawat.
(3) Yn y rheoliad hwn mae i “gorsaf cynhyrchu trydan o ynni'r gwynt ar y tir” a “gallu cynhyrchu gosodedig” yr ystyron a roddir yn rheoliad 4(3).”
Enw
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad
([2]) Diwygiwyd adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a pharagraff 3 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 333 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
([3]) Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler yr eitem yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.